1 Teios New York
Ffordd Bangor
Penmaenmawr
Conwy
LL34 6NP

1 New York Cottages
Bangor Road
Penmaenmawr
Conwy
LL34 6NP

Environment and Planning

Home
Contacts
News
Planning Work
Environmental Work
Who are we?
Why choose us?
Clients
Examples of work
Terms & Conditions

Policies

Cartref
Cyswllt

Newyddion
Gwaith Cynllunio
Gwaith Amgylcheddol
Pwy rydym?
Pam ein dewis ni?
Cleiantiaid
Siampl ein gwaith
Termau ac Amodau

Polisiau

WEBMASTER CYNEFIN 2009

Gwasanaethau Amgylcheddol


Trafferthion gydag ystlumod, moch daear neu rywogaethau eraill sydd wedi'u hamddiffyn? Gallwn ddarparu arolygon ecolegol ac amgylcheddol arbenigol.
Asesiadau o effeithiau amgylcheddol
Mae'n rhaid cynnwys datganiad amgylcheddol gyda cheisiadau cynllunio am ddatblygiadau sylweddol, dogfen yw hon sy'n disgrifio'n fanwl yr holl effeithiau amgylcheddol mae datblygiad arfaethedig yn debygol o'i cael. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cynefin wedi ysgrifennu sawl un o'r datganiadau hyn ar gyfer amrywiaeth o gynlluniau gan gynnwys ehangu ac adfer mwyngloddfeydd llechi Alfred McAlpine yng Ngwynedd a fferm wynt Ail Wynt yn Nyffryn Conwy. Yn y ddau achos hwn, fe adnabyddwyd pwysigrwydd amddiffyn cymunedau traddodiadol a chreu cyfleon cyflogaeth da ar gyfer pobl leol a fe sicrhawyd caniatâd cynllunio.

Rheolaeth amgylcheddol - Rheilffordd Ucheldir Cymru
Mae Cynefin yn gyfrifol am arolygon ecolegol a monitro amgylcheddol ar hyd trywydd Rheilffordd Ucheldir Cymru, sydd wrthi'n cael ei adfer rhwng Caernarfon a Phorthmadog. Mae cynefinoedd unigryw ar gyfer bywyd gwyllt ar hyd y llwybr ynghyd â sawl rhywogaeth sydd wedi eu hamddiffyn a ffermydd gweithredol. Mae cynllunwyr, dylunwyr tirwedd a gwyddonwyr amgylcheddol Cynefin yn cydweithio gyda'r peirianwyr rheilffordd a pherchnogion tir, ynghyd â'r awdurdod cynllunio a sefydliadau rheolaethol eraill, i sicrhau bod y gwaith yn gweddu gyda'r amgylchedd naturiol ysblennydd y mae'r rheilffordd yn ymlwybro trwyddi.

Prosiectau amgylcheddol eraill

Coed Cabin - Yn 2003 cwblhaodd Cynefin arolwg ecolegol yng Nghoed Cabin, coedlan 5 hectar ger Cricieth, er mwyn asesu os oedd y safle'n addas ar gyfer gemau rhyfel ffug. Roedd amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid yn y goedwig gan gynnwys rhywogaethau a'u hamddiffynnir megis dyfrgwn a moch daear. Wedi ymgynghori gyda'r awdurdodau rheolaethol, cynigwyd cyfres o gamau i liniaru effeithiau'r datblygiad ac fe ganiatawyd y datblygiad gan Gyngor Gwynedd. Mae Coed Cabin yn cynnig enghraifft dda o safle sydd ag amrywiaeth o nodweddion ecolegol lle gall ddatblygiad sensitif, raddfa fechan ddigwydd dim ond bod cyfyngiadau priodol maen lle.

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 - Gofyniadau a chyfleon
Yn haf 2003 comisiynwyd Cynefin, mewn partneriaeth ag Asken Cyf., gan Gyngor Gwynedd i asesu oblygiadau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (y ddeddf "CROW") ac i'w cynghori ar fanteision a chostau gwahanol ddulliau o weithredu'r ddeddf. Aseswyd pob un o'r pump rhan o'r ddeddf - mynediad i dir agored, hawliau tramwy a thrafnidiaeth ffordd, cadwraeth natur ac amddiffyn bywyd gwyllt, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac amrywiol ac ychwanegol, gan edrych ar y goblygiadau ar gyfer adnoddau'r Cyngor.

Cynllun ysgolion gwyrdd - Yn ddiweddar cwblhaodd Cynefin asesiad o gynllun addysg amgylcheddol ymarferol yn siroedd Gwynedd ac Ynys Môn, gan ymateb i gamau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ymestyn addysg datblygiad cynaliadwy. Mae'r Cynllun Ysgolion Gwyrdd yn anelu at hyrwyddo addysg ac ymwybyddiaeth ym maes datblygiad cynaliadwy, gan helpu plant ysgol i ddelio gydag achosion niwed amgylcheddol yn hytrach na'r symptomau.

Rhwydwaith mynediad cefn gwlad Gwynedd - Menter twristiaeth cynaliadwy Cynhyrchodd Cynefin adroddiad yn adnabod y cyfleon sy'n bodoli i hyrwyddo twf economaidd trwy ddatblygu, hyrwyddo a rheoli mewn dull cynaliadwy y rhwydwaith hawliau tramwy yng Ngwynedd. 'ROedd yr adroddiad yn amcangyfrif y buddion economaidd a ddaw i'r ardal yn nhermau gwariant ychwanegol gan ymwelwyr ac yn nhermau creu swyddi mewn gwahanol sectorau o'r farchnad.

Datblygiad rhwydwaith llwybrau beicio yn Eryri
Gweithiodd Cynefin gyda Sustrans i ddatblygu rhwydwaith strategol o lwybrau beicio yng Ngogledd Eryri. Dangosodd yr astudiaeth sut y gellid integreiddio rhwydwaith beicio'n llawn gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, sut y gellid ei gysylltu gyda chyrchfannau poblogaidd a sut y gallid cysylltu gyda chyfleusterau presennol. Cyfrifwyd budd economaidd y rhwydwaith yn ogystal. Roedd yr adroddiad yn cynnwys mapiau manwl a manebau wedi eu paratoi ar ôl ymgymryd ag astudiaeth drylwyr o'r ardal sydd yn cael eu defnyddio fel sail i hyrwyddo beicio yn yr ardal.

Arolwg o ffyngau porfa Gogledd Iwerddon - Rheolodd Cynefin arolwg tair blynedd o ffyngau porfa ar draws Gogledd Iwerddon ar ran Gwasanaeth yr Amgylchedd a Threftadaeth y dalaith. Y bwriad oedd i hel gwybodaeth ar draws y dalaith i ddangos dosbarthiad rhywogaethau o ffyngau porfa gyda'r bwriad o amddiffyn safleoedd pwysig.

Asesiad o adnoddau naturiol - ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae gan Gymru lawer o wastraff mwynau, yn enwedig gwastraff llechi yn y Gogledd sy'n dyddio'n ôl at gychwyn y 19fed ganrif ac ynghynt. Er enghraifft mae oddeutu 6 cilomedr sgwâr o ardal Bethesda dan domenni llechi, lle bu unwaith chwarel llechi mwya'r byd. Cyfunodd wybodaeth fanwl Cynefin o'r adnodd gyda sgiliau cwmni Ove Arup i gynhyrchu adroddiad i'r llywodraeth yn asesu'r posibiliadau ar gyfer defnyddio gwastraff llechi fel agregad eilradd. Mae galw sy'n tyfu am ddefnydd o'r fath yn enwedig yng nghanoldir a de Lloegr a mae cynlluniau ar y gweill i gludo'r defnydd yno. Tra'n cofio'r angen i gadw'r nodweddion tirwedd a hanesyddol sy'n diffinio'r ardaloedd llechi gall ddefnyddio'r gwastraff fel agregad eilradd ddod â buddion economaidd a chymdeithasol a helpu cwrdd a'r galw am adnoddau o'r fath mewn rhannau o'r DU lle mae cynlluniau priffyrdd ac adeiladu'n digwydd.