1 Teios New York
Ffordd Bangor
Penmaenmawr
Conwy
LL34 6NP

1 New York Cottages
Bangor Road
Penmaenmawr
Conwy
LL34 6NP

Environment and Planning

Home
Contacts
News
Planning Work
Environmental Work
Who are we?
Why choose us?
Clients
Examples of work
Terms & Conditions

Policies

Cartref
Cyswllt

Newyddion
Gwaith Cynllunio
Gwaith Amgylcheddol
Pwy rydym?
Pam ein dewis ni?
Cleiantiaid
Siampl ein gwaith
Termau ac Amodau

Polisiau

WEBMASTER CYNEFIN 2009


Gall Cynefin ddefnyddio arbenigedd proffesiynol ei weithlu ym meysydd cynllunio, amgylcheddol
a gwasanaethau cefnogol naill ai o fewn i'r tîm craidd neu o'i rwydwaith eang o gymdeithion.

Staff

Yr Athro Tom Pritchard OBE - Cadeirydd

Mae Tom yn brofiadol ym meysydd cyfraith a pholisi amgylcheddol ac mae ganddo sgiliau mewn rheoli rhaglenni ymchwil a datblygu technoleg. Mae yn arbenigo yn y materion cyfreithiol ac ymarferol sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus a mynediad cefn gwlad ac am un mlynedd ar deg bu'n aelod o Banel Archwilwyr Annibynol yr Arglwydd Ganghellor fel rhan o'r Arolygaeth Cynllunio.

Rhys Roberts Dip.EP, MRTPI - Cyfarwyddwr

Mae Rhys yn raddedig mewn swoleg ac yn Gynllunydd Trefol Siartredig. Mae ganddo brofiad helaeth o arwain cynlluniau amgylcheddol a chynllunio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a bu gynt yn swyddog cynllunio gyda Chyngor Sir Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Gill Clarke - Gweinyddwraig

Mae Gill yn gyfrifol am weinyddiaeth a hefyd yn swyddog maes cadwriaethol â chymwysterau, gyda phrofiad o weithio mewn grwpiau partneriaeth i ddatblygu cynlluniau cymunedol. Mae ganddi wybodaeth eang am faterion gwledig ac am yr amgylchedd naturiol.

Cymdeithion Craidd

Graham Wild MCD

Ymgynghorydd cynllunio a hyfforddiant, bu gynt yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cynllunio ac Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae'n arbenigo mewn cynllunio strategol, mewn rhanbarthau ac mewn sefydliadau fel ei gilydd.


Susan Hill MA

Mae gan Sue MA mewn Cynllunio Trefol a Rhanbarthol a phrofiad helaeth o waith mewn llywodraeth leol, wedi gweithio am lawer o’i gyrfa gyda Chyngor Gwynedd. Mae'n arbenigo mewn tai, twristiaeth, ymchil a rheolaeth data.

Terry Rendell

Fel Uwch Reolwr Tirwedd a Chefn Gwlad mae Terry'n gyfrifol am asesiadau tirwedd ac am gynigion dylunio ar gyfer gwelliannau amgylcheddol a chynlluniau mynediad cyhoeddus, gan gynnwys trywyddau, llwybrau troed a llwybrau beicio.

 

Peter Marston Dip.TP, FRTPl

Uwch Gynllunydd a chyn gyfarwyddwr Cynefin, mae yn Gynllunydd Trefol Siartredig sydd wedi gweithio gydag awdurdodau lleol a'r sector preifat ym meysydd datblygu economaidd, cynllunio, adfywiad trefol, rheolaeth cefn gwlad a thwristiaeth.

 

Susan Roberts

Arbenigwraig mewn cynllunio amgylcheddol, gyda diddordeb arbennig mewn adfywiad gwledig ac addysg amgylcheddol. Mae Susan yn ymchwilydd profiadol, wedi gweithio yn y Ganolfan Menter a Datblygiad Rhanbarthol ym Mhrifysgol Bangor.

Sgiliau ac Arbenigedd