1 Teios New York
Ffordd Bangor
Penmaenmawr
Conwy
LL34 6NP

1 New York Cottages
Bangor Road
Penmaenmawr
Conwy
LL34 6NP

Environment and Planning

Home
Contacts
News
Planning Work
Environmental Work
Who are we?
Why choose us?
Clients
Examples of work
Terms & Conditions

Policies

Cartref
Cyswllt

Newyddion
Gwaith Cynllunio
Gwaith Amgylcheddol
Pwy rydym?
Pam ein dewis ni?
Cleiantiaid
Siampl ein gwaith
Termau ac Amodau

Polisiau

WEBMASTER CYNEFIN 2009

Awdurdodau lleol, asiantaethau llywodraeth a sefydliadau eraill
Enghreifftiau o gynlluniau diweddar


Cyswllt amaeth - gwasanaeth cyngor cynllunio
Yn ystod 2005-2006 trefnodd Cynefin gyfres o ddigwyddiadau gyda'r nos yn egluro'r broses cynllunio i ffermwyr a oedd a diddordeb mewn arallgyfeirio eu busnes. Yn ogystal cynhaliwyd dros 100 o sesiynau cynghori un wrth un i helpu ffermwyr i ddeall sut y gall cynllunio effeithio eu busnes

Fforwm Economaidd Gogledd Cymru - adolygiad o bolisi arwyddion brown
Bu i Cynefin gynnal cyfweliadau gyda'r prif rhanddalwyr sy'n ymwneud a darparu arwyddion twristiaeth Brown a Gwyn a fe wnaethpwyd arolwg o sut mae'r gwasanaeth yn cael ei weithredu dros ogledd Cymru. Yn ystod Cam 2 y cynllun darparwyd llawlyfr drafft i'r holl ddarparwyr gwasanaeth ar sut i wella cysondeb ar draws yr ardal.

Cyngor Sir Ddinbych - ceisiadau cynllunio deiliad ty^
Bu Cynefin yn helpu cyngor Sir Ddinbych i ddelio gyda cheisiadau cynllunio deiliad ty ynghyd â cheisiadau llai. Fe ddeliwyd gyda dros 300 o geisiadau dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cyngor Sir Ynys Môn
Bu i Cynefin gynorthwyo Gwasanaeth Rheoli Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn gyda'i waith gorfodaeth. Bwriad y contract oedd i glirio ol-groniad o achosion gorfodaeth a oedd wedi digwydd yn sgil problemau staffio hir-dymor, i gwblhau gwerthusiad o'r gwasanaeth gorfodaeth gydag argymhellion ar sut i weithredu yn y dyfodol, ac i ddarparu adnoddau o ansawdd uchel i wella dealltwriaeth ymysg y cyhoedd, staff a chynghorwyr o'r system gorfodaeth, ei ddulliau gweithredu a'i bwrpas.

Cyngor Gwynedd - astudiaeth o gynhwysedd diwydiannol Gwynedd
Bu i Cynefin werthuso'r ddarpariaeth bresennol o safleoedd a thir ar gyfer datblygiadau busnes yng Ngwynedd ac fe ragdybiwyd y galw am safleoedd o'r fath ar gyfer y cyfnod 2000- 2015. Bu i'r adolygiad gymryd i ystyriaeth barn a dyheadau rheolwyr busnesau presennol a'r casgliadau oedd bod digon o dir ar gael ar gyfer anghenion busnes y sir ar gyfer y pymtheng mlynedd nesaf ond bod angen rhagor o unedau ar gyfer busnesau o bob maint. Argymhellodd yr adroddiad y dylid sefydlu system fonitro er mwyn asesu'r anghenion newidiol, gan sicrhau fod unrhyw brinder tir neu unrhyw gyfleon datblygu'n cael eu hadnabod ar adeg gynnar.

Cynghorau Sir Gwynedd ac Ynys Môn - Arolygon o hawliau tramwy cyhoeddus
Cwblhawyd arolygon o gyflwr, hwylustra a rhwystrau llwybrau Ynys Môn a Gwynedd ym 2005/6. Gweithiodd Cynefin gydag exeGISis gan ddefnyddio cyfarpar arolwg electronaidd llaw gan gynnwys mapiau OS, GPS a chofnodion ffotograffeg o nodweddion.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Yn 2006 bu i Cynefin gynnal arolwg o gyflwr Cynefinoedd Coetir Atodiad 1 ar gyfer pedwar Ardal Cadwraeth Arbennig yng ngogledd a chanolbarth Cymru. Bydd y canlyniadau'n helpu trwy roi rhagor o wybodaeth i reolwyr safle, yn galluogi monitro'r cyflwr ac yn cyfrannu tuag at asesiad statws cadwriaethol y cynefinoedd hyn.

Fforwm Amgylcheddol Ynys Môn - bas data o weithgaredd presennol
'Roed y Fforwm yn awyddus i rannu gwybodaeth ynghylch gweithgareddau, cynlluniau a rhaglenni ymysg ei aelodau. Rhoddodd Cynefin strwythur i wybodaeth a gasglwyd gan holl aelodau'r Fforwm ynghylch y cynlluniau maent yn ymwneud â hwy. Fe storiwyd yr wybodaeth ar fas data Access a baratowyd gan Cynefin.